At wedd dy wyneb nid yw ddim

1,2,3,4,(5),7;   1,2,3,4,6,7.
(Crist yn rhagori ar ddeng mil)
At wedd dy wyneb nid yw ddim,
    Drysorau maith y llawr,
Mae gair o'th enau'n llawer mwy
    Ei rym nag uffern fawr.

Os edrych wnaf i'r Dwyrain draw,
    Os edrych wnaf i'r De,
Yn mhlith a fu, neu ynte ddaw,
   'Does debyg iddo fe.

Ni feddaf ar y ddaear lawr,
    Ni feddaf yn y ne',
Neb ag a bery'n anwyl im',
    Yn unig ond efe.

Mae ynddo'i hunan drysor mwy,
    Nag fedd yr India lawn;
Fe brynodd i mi fwy na'r byd,
    Ar groesbren un brydnawn.

Fe brynodd imi euraidd wisg,
    Trwy ddyoddef marwol glwy';
Ei angau Ef a guddia'm gwarth
    I dragwyddoldeb mwy.

'Does gennyf mwy ond Duw yn dad,
    Yn erbyn pob rhyw wae;
Na dim ond grym ei gariad rhad
    Yn sylfaen i barhau.

O na allwn rodio er ei glod,
    Ac iddo bellach fyw;
A threulio mywyd gyd â blas,
    I ganmol gras fy Nuw.
Yn mhlith :: Y'mhlith
ddaear lawr :: ddaear fawr
brydnawn :: prydnawn

William Williams 1717-91

Tôn [MC 8686]: Ebenezer New (<1829)

gwelir:
  'Dyw'n ofni'r bedd 'dwy'n ofni'r groes
  Ffoed negeseuau gwag y dyd
  Iesu sy'n fwy na'r nef ei hun
  Mae yn yr Iesu drysor mwy
  Mi dafla 'maich i lawr i gyd
  Ni feddaf ar a ddaear fawr/lawr
  O cymmer fy serchiadau'n glau
  O Iesu cymer dy allu mawr
  Pan byddo f'Arglwydd imi'n rhoi
  Pererin wyf mewn anial dir (Yn crwdro)
  'Rwy'n ffrynd i'r bedd 'rwy'n ffrynd i'r groes
  Yn nyfnder profedigaeth ddu

(Christ better than ten thousand)
To the likeness of thy face there is nothing,
    Vast treasures of the earth,
The word of thy mouth is much more
   In its force than great hell.

If I do look to the far East,
   If I do look to the south,
Amongst what has been, or then what comes,
   Nothing resembles him

I possess nothing on the earth below,
   I possess nothing in heaven,
No-one either who will remain dear to me,
   Except him alone.

In him himself is treasure more,
   Than full India possesses;
He purchased for me more than the world,
   On the wooden cross one afternoon.

He purchased for me golden clothing,
    Through suffering a mortal wound;
His death will hide my shame
    To eternity henceforth.

I no longer have but God as father,
   Against every kind of woe;
Nor anything but the force of his free love
   As a foundation to endure.

O that I might travel for his praise,
    And for it further live;
And spend all my life with taste,
    To praise my God's grace.
::
earth below :: great earth
::

tr. 2009,19 Richard B Gillion.


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~